Wales and the World: Cynefin, Colonialism and Global Interconnections

Date / time: 6 June - 7 June, All day

Wales and the World: Cynefin, Colonialism and Global Interconnections

 

Call for papers, deadline – 25 February 2022

University of Wales Trinity St David, Conference Dates –  6 to 7 June 2022
Hybrid conference: on site at UWTSD Lampeter and online
Keynote speaker: Professor Olivette Otele, University of Bristol

This conference will situate the history of Wales within global and colonial contexts. The conference invites proposals for papers that engage with current issues and debates in historiography and public policy alike. On one hand, the conference aims to expand upon recent scholarship which has cast new light on Wales’s connections to imperialism and transatlantic slavery. On the other, it will encourage discussions about how Welsh national history and identity is understood and taught.The conference is animated by the findings of a 2021 report chaired by Charlotte Williams which led to BAME histories being formally incorporated in the Curriculum for Wales. The conference follows the Williams report by problematizing the concept of cynefin – often translated as ‘habitat’ but with broader connotations suggesting rootedness and a place of belonging. Without downplaying the concept’s utility, the Williams report stresses that cynefin has the potential to be exclusionary if limited simply to localities and local demography. Accordingly, the conference invites papers that explore the routes (as well as roots) of cynefin and which reconsider Wales’s relationship to wider histories of migration, international trade and colonialism.

The conference is part of a series of events that mark the bicentenary of St David’s College, Lampeter – forerunner of today’s University of Wales Trinity St David. Relevant papers focusing on histories of educational institutions and rural Wales are thus particularly encouraged.

We welcome proposals for papers on themes including (but not limited to):

  • Wales as colony/Wales as coloniser
  • Heritage, museums and public history
  • Memorials, commemoration and anniversaries
  • Built and natural landscapes• Histories of educational institutions
  • The concept of cynefin
  • Migration in Welsh history
  • BAME histories in national curricula
  • The colonial countryside
  • Language and identity

Papers should be 20 minutes in length. Please submit a paper proposal of 250 words and a short biography by Friday 25 February 2022. We particularly encourage proposals from postgraduates and early-career researchers, and welcome papers delivered through the medium of Welsh. Email proposals and enquiries to: walesandtheworld@uwtsd.ac.uk.

Cymru a’r Byd: Cynefin, Gwladychiaeth a Chydgysylltiadau Byd-eang

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, 6—7 Mehefin 2022
Cynhadledd Hybrid: ar y safle ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) Llambed, ac ar-lein
Prif siaradwr: Yr Athro Olivette Otele, Prifysgol Bryste

Gwnaiff y gynhadledd hon leoli hanes Cymru o fewn cyd-destunau byd-eang a threfedigaethol. Mae’r gynhadledd yn gwahodd cynigion ar gyfer papurau sy’n ymwneud â materion a dadleuon cyfoes hanesyddiaeth yn ogystal â pholisïau cyhoeddus. Ar y naill law, mae’r gynhadledd yn ceisio ehangu ysgolheictod diweddar sydd wedi taflu golau newydd ar gysylltiadau Cymru ag imperialaeth a chaethwasiaeth trawsiwerydd. Ar y llaw arall, gwnaiff annog trafodaethau ynglŷn â sut caiff hanes cenedlaethol a hunaniaeth Cymru eu deall a’u haddysgu.

Mae’r gynhadledd yn cael ei bywhau gan gasgliadau adroddiad cyfarfod 2021 a gafodd ei gadeirio gan Charlotte Williams ac a wnaeth arwain at hanesion BAME yn cael eu hymgorffori’n ffurfiol yn y Cwricwlwm i Gymru. Mae’r gynhadledd yn dilyn yn sail adroddiad Williams drwy broblemeiddio’r cysyniad o gynefin – a gaiff ei gyfieithu’n aml i ‘habitat’, ond sydd ganddo gynodiadau ehangach sy’n awgrymu gwreiddiedigrwydd a pherthyn i le. Heb leihau defnydd y cysyniad, mae adroddiad Williams yn pwysleisio bod gan y gair ‘cynefin’ y potensial i wahardd pobl pe bai’n cael ei gyfyngu’n syml i gymdogaethau a demograffeg leol. Oherwydd hynny, mae’r gynhadledd yn gwahodd papurau sy’n archwilio llwybrau (yn ogystal â gwreiddiau) cynefin a gwnaiff hefyd ailystyried perthynas Cymru â hanesion ehangach ymfudiad, masnach ryngwladol a gwladychiaeth.

Mae’r gynhadledd yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau sy’n dathlu daucanmlwyddiant Coleg Dewi Sant Llambed – rhagredegydd yr athrofa bresennol, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Felly, caiff papurau sy’n canolbwyntio ar hanesion sefydliadau addysgol a chefn gwlad Cymru yn enwedig eu hannog.Croesawn gynigion ar gyfer papurau ar themâu sy’n cynnwys (ond heb eu cyfyngu arnynt):

  • Cymru fel gwladfa / Cymru fel gwladychwr
  • Treftadaeth, amgueddfeydd a hanes cyhoeddus
  • Cofadeiladau, coffâd a phennau blwydd
  • Tirweddau adeiledig a naturiol
  • Hanesion sefydliadau addysgol
  • Cysyniad cynefin
  • Ymfudiadau hanes Cymru
  • Hanesion BAME mewn cwricwla cenedlaethol
  • Y cefn gwlad trefedigaethol
  • Iaith a hunaniaeth

Dylai fod y papurau yn 20 munud o hyd. Cyflwynwch gynnig o 250 o eiriau ar bapur a bywgraffiad byr erbyn dydd Gwener 25 Chwefror 2022. Rydym yn annog yn arbennig myfyrwyr ôl-raddedig ac ymchwilwyr sydd newydd ddechrau ar eu gyrfa i gyflwyno, ac yn croesawu papurau a gaiff eu cyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg. E-bostiwch eich cynigion a’ch ymholiadau at: walesandtheworld@uwtsd.ac.uk.

Image details: https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Atlas_Van_der_Hagen-KW1049B11_031-WALLIA_PRINCIPATUS_Vulgo_WALES..jpeg